1 Cronicl 12:10-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Mismanna y pedwerydd, Jeremeia y pumed,

11. Attai y chweched, Eliel y seithfed,

12. Johanan yr wythfed, Elsabad y nawfed,

13. Jeremeia y degfed, Machbanai yr unfed ar ddeg.

14. Y rhai hyn oedd o feibion Gad, yn gapteiniaid y llu: yr un lleiaf oedd ar gant, a'r mwyaf ar fil.

15. Dyma hwy y rhai a aethant dros yr Iorddonen yn y mis cyntaf, a hi wedi llifo dros ei holl dorlannau, ac a yrasant i ffo holl drigolion y dyffrynnoedd tua'r dwyrain, a thua'r gorllewin.

16. A rhai o feibion Benjamin a Jwda a ddaethant i'r amddiffynfa at Dafydd.

17. A Dafydd a aeth i'w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt, Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i'm cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un รข chwi: ond os i'm bradychu i'm gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, Duw ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo.

1 Cronicl 12