1 Cronicl 1:50-54 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

50. A bu farw Baalhanan, a theyrnasodd yn ei le ef Hadad: ac enw ei ddinas ef oedd Pai; ac enw ei wraig ef Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.

51. A bu farw Hadad. A dugiaid Edom oedd; dug Timna, dug Alia, dug Jetheth,

52. Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon,

53. Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar,

54. Dug Magdiel, dug Iram. Dyma ddugiaid Edom.

1 Cronicl 1