1 Cronicl 1:43-54 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

43. Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yn nhir Edom, cyn teyrnasu o frenin ar feibion Israel; Bela mab Beor: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.

44. A phan fu farw Bela, y teyrnasodd yn ei le ef Jobab mab Sera o Bosra.

45. A phan fu farw Jobab, Husam o wlad y Temaniaid a deyrnasodd yn ei le ef.

46. A phan fu farw Husam, yn ei le ef y teyrnasodd Hadad mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab: ac enw ei ddinas ef ydoedd Afith.

47. A phan fu farw Hadad, y teyrnasodd yn ei le ef Samla o Masreca.

48. A phan fu farw Samla, Saul o Rehoboth wrth yr afon a deyrnasodd yn ei le ef.

49. A phan fu farw Saul, y teyrnasodd yn ei le ef Baalhanan mab Achbor.

50. A bu farw Baalhanan, a theyrnasodd yn ei le ef Hadad: ac enw ei ddinas ef oedd Pai; ac enw ei wraig ef Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.

51. A bu farw Hadad. A dugiaid Edom oedd; dug Timna, dug Alia, dug Jetheth,

52. Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon,

53. Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar,

54. Dug Magdiel, dug Iram. Dyma ddugiaid Edom.

1 Cronicl 1