1 Cronicl 1:36-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

36. Meibion Eliffas; Teman, ac Omar, Seffi, a Gatam, Cenas, a Thimna, ac Amalec.

37. Meibion Reuel; Nahath, Sera, Samma, a Missa.

38. A meibion Seir; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana, a Dison, ac Eser, a Disan.

39. A meibion Lotan; Hori, a Homam: a chwaer Lotan oedd Timna.

40. Meibion Sobal; Alïan, a Manahath, ac Ebal, Seffi, ac Onam. A meibion Sibeon; Aia, ac Ana.

41. Meibion Ana; Dison. A meibion Dison; Amram, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.

42. Meibion Eser; Bilhan, a Safan, a Jacan. Meibion Dison; Us, ac Aran.

1 Cronicl 1