1 Cronicl 1:33-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. A meibion Midian; Effa, ac Effer, a Henoch, ac Abida, ac Eldaa: y rhai hyn oll oedd feibion Cetura.

34. Ac Abraham a genhedlodd Isaac. Meibion Isaac; Esau, ac Israel.

35. Meibion Esau; Eliffas, Reuel, a Jëus, a Jaalam, a Chora.

36. Meibion Eliffas; Teman, ac Omar, Seffi, a Gatam, Cenas, a Thimna, ac Amalec.

37. Meibion Reuel; Nahath, Sera, Samma, a Missa.

38. A meibion Seir; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana, a Dison, ac Eser, a Disan.

39. A meibion Lotan; Hori, a Homam: a chwaer Lotan oedd Timna.

40. Meibion Sobal; Alïan, a Manahath, ac Ebal, Seffi, ac Onam. A meibion Sibeon; Aia, ac Ana.

1 Cronicl 1