1 Cronicl 1:19-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Ac i Eber y ganwyd dau o feibion: enw y naill ydoedd Peleg; oherwydd mai yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear: ac enw ei frawd oedd Joctan.

20. A Joctan a genhedlodd Almodad, a Seleff, a Hasarmafeth, a Jera,

21. Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla,

22. Ac Ebal, ac Abimael, a Seba,

23. Offir hefyd, a Hafila, a Jobab. Y rhai hyn oll oedd feibion Joctan.

24. Sem, Arffacsad, Sela,

25. Eber, Peleg, Reu,

26. Serug, Nachor, Tera,

27. Abram, hwnnw yw Abraham.

1 Cronicl 1