1 Corinthiaid 9:6-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ai myfi yn unig a Barnabas, nid oes gennym awdurdod i fod heb weithio?

7. Pwy sydd un amser yn rhyfela ar ei draul ei hun? pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwyta o'i ffrwyth hi? neu pwy sydd yn porthi praidd, ac nid yw yn bwyta o laeth y praidd?

8. Ai yn ôl dyn yr wyf fi yn dywedyd y pethau hyn? neu onid yw'r ddeddf hefyd yn dywedyd hyn?

9. Canys ysgrifenedig yw yn neddf Moses, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu. Ai dros ychen y mae Duw yn gofalu?

1 Corinthiaid 9