1. Onid wyf fi yn apostol? onid wyf fi yn rhydd? oni welais i Iesu Grist ein Harglwydd? onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?
2. Onid wyf yn apostol i eraill, eto yr wyf i chwi: canys sĂȘl fy apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd.
3. Fy amddiffyn i, i'r rhai a'm holant, yw hwn;
4. Onid oes i ni awdurdod i fwyta ac i yfed?
5. Onid oes i ni awdurdod i arwain o amgylch wraig a fyddai chwaer, megis ag y mae i'r apostolion eraill, ac i frodyr yr Arglwydd, ac i Ceffas?
6. Ai myfi yn unig a Barnabas, nid oes gennym awdurdod i fod heb weithio?