1 Corinthiaid 7:9-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.

10. Ac i'r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymyn, nid myfi chwaith, ond yr Arglwydd, Nad ymadawo gwraig oddi wrth ei gŵr:

11. Ac os ymedy hi, arhoed heb briodi, neu, cymoder hi â'i gŵr: ac na ollynged y gŵr ei wraig ymaith.

12. Ac wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi, nid yr Arglwydd, Os bydd i un brawd wraig ddi‐gred, a hithau yn fodlon i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith.

13. A'r wraig, yr hon y mae iddi ŵr di‐gred, ac yntau yn fodlon i drigo gyda hi, na wrthoded hi ef.

14. Canys y gŵr di‐gred a sancteiddir trwy'r wraig, a'r wraig ddi‐gred a sancteiddir trwy'r gŵr: pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt.

15. Eithr os yr anghredadun a ymedy, ymadawed. Nid yw'r brawd neu'r chwaer gaeth yn y cyfryw bethau; eithr Duw a'n galwodd ni i heddwch.

16. Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost tithau, ŵr, a gedwi di dy wraig?

17. Ond megis y darfu i Dduw rannu i bob un, megis y darfu i'r Arglwydd alw pob un, felly rhodied. Ac fel hyn yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll.

18. A alwyd neb wedi ei enwaedu? nac adgeisied ddienwaediad. A alwyd neb mewn dienwaediad? nac enwaeder arno.

1 Corinthiaid 7