1 Corinthiaid 7:4-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Nid oes i'r wraig feddiant ar ei chorff ei hun, ond i'r gŵr; ac yr un ffunud, nid oes i'r gŵr feddiant ar ei gorff ei hun, ond i'r wraig.

5. Na thwyllwch eich gilydd, oddieithr o gydsyniad dros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd.

6. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganiatâd, nid o orchymyn.

7. Canys mi a fynnwn fod pob dyn fel fi fy hun: eithr y mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw; i un fel hyn, ac i arall fel hyn.

8. Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi, a'r gwragedd gweddwon, Da yw iddynt os arhosant fel finnau.

9. Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.

10. Ac i'r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymyn, nid myfi chwaith, ond yr Arglwydd, Nad ymadawo gwraig oddi wrth ei gŵr:

11. Ac os ymedy hi, arhoed heb briodi, neu, cymoder hi â'i gŵr: ac na ollynged y gŵr ei wraig ymaith.

12. Ac wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi, nid yr Arglwydd, Os bydd i un brawd wraig ddi‐gred, a hithau yn fodlon i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith.

13. A'r wraig, yr hon y mae iddi ŵr di‐gred, ac yntau yn fodlon i drigo gyda hi, na wrthoded hi ef.

14. Canys y gŵr di‐gred a sancteiddir trwy'r wraig, a'r wraig ddi‐gred a sancteiddir trwy'r gŵr: pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt.

15. Eithr os yr anghredadun a ymedy, ymadawed. Nid yw'r brawd neu'r chwaer gaeth yn y cyfryw bethau; eithr Duw a'n galwodd ni i heddwch.

16. Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost tithau, ŵr, a gedwi di dy wraig?

1 Corinthiaid 7