15. Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist, er hynny nid oes i chwi nemor o dadau: canys myfi a'ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy'r efengyl.
16. Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, byddwch ddilynwyr i mi.
17. Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus, yr hwn yw fy annwyl fab, a ffyddlon yn yr Arglwydd; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys.
18. Ac y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod atoch chwi.
19. Eithr mi a ddeuaf atoch ar fyrder, os yr Arglwydd a'i myn; ac a fynnaf wybod, nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo, ond eu gallu.
20. Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw; eithr mewn gallu.
21. Beth a fynnwch chwi? ai dyfod ohonof fi atoch chwi รข gwialen, ynteu mewn cariad, ac ysbryd addfwynder?