1 Corinthiaid 4:13-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Pan y'n ceblir, yr ydym yn gweddïo: fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim, hyd yn hyn.

14. Nid i'ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifennu'r pethau hyn; ond eich rhybuddio yr wyf fel fy mhlant annwyl.

15. Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist, er hynny nid oes i chwi nemor o dadau: canys myfi a'ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy'r efengyl.

1 Corinthiaid 4