1 Corinthiaid 4:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Felly cyfrifed dyn nyni, megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw.

2. Am ben hyn, yr ydys yn disgwyl mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon.

3. Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun.

4. Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni'm cyfiawnhawyd: eithr yr Arglwydd yw'r hwn sydd yn fy marnu.

1 Corinthiaid 4