1. Felly cyfrifed dyn nyni, megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw.
2. Am ben hyn, yr ydys yn disgwyl mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon.
3. Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun.
4. Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni'm cyfiawnhawyd: eithr yr Arglwydd yw'r hwn sydd yn fy marnu.
5. Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo'r Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau'r calonnau: ac yna y bydd y glod i bob un gan Dduw.
6. A'r pethau hyn, frodyr, mewn cyffelybiaeth a fwriais i ataf fy hun ac at Apolos, o'ch achos chwi: fel y gallech ddysgu ynom ni, na synier mwy nag sydd ysgrifenedig, fel na byddoch y naill dros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall.
7. Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? a pha beth sydd gennyt a'r nas derbyniaist? ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu, megis pe bait heb dderbyn?
8. Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu, yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni: ac och Dduw na baech yn teyrnasu, fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi.
9. Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni, yr apostolion diwethaf, fel rhai wedi eu bwrw i angau: oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i'r byd, ac i'r angylion, ac i ddynion.
10. Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus.
11. Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd;
12. Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio รข'n dwylo'n hunain. Pan y'n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y'n herlidir, yr ydym yn ei ddioddef;