12. Ac am y brawd Apolos, mi a ymbiliais lawer ag ef am ddyfod atoch chwi gyda'r brodyr: eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron; ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas.
13. Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch.
14. Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad.
15. Ond yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, (chwi a adwaenoch dŷ Steffanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymosod i weinidogaeth y saint,)
16. Fod ohonoch chwithau yn ddarostyngedig i'r cyfryw, ac i bob un sydd yn cydweithio, ac yn llafurio.
17. Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Steffanas, Ffortunatus, ac Achaicus: canys eich diffyg chwi hwy a'i cyflawnasant;
18. Canys hwy a esmwythasant ar fy ysbryd i, a'r eiddoch chwithau: cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai.
19. Y mae eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Acwila a Phriscila, gyda'r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd yn fynych.