1 Corinthiaid 16:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Hefyd am y gasgl i'r saint; megis yr ordeiniais i eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau.

2. Y dydd cyntaf o'r wythnos, pob un ohonoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori, fel y llwyddodd Duw ef, fel na byddo casgl pan ddelwyf fi.

3. A phan ddelwyf, pa rai bynnag a ddangosoch eu bod yn gymeradwy trwy lythyrau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem.

4. Ac os bydd y peth yn haeddu i minnau hefyd fyned, hwy a gânt fyned gyda mi.

1 Corinthiaid 16