1 Corinthiaid 15:7-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iago; yna gan yr holl apostolion.

8. Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gennyf finnau hefyd, megis gan un annhymig.

9. Canys myfi yw'r lleiaf o'r apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Dduw.

10. Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf: a'i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll: ac nid myfi chwaith, ond gras Duw, yr hwn oedd gyda mi.

1 Corinthiaid 15