1 Corinthiaid 15:56-58 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

56. Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw'r gyfraith.

57. Ond i Dduw y byddo'r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

58. Am hynny, fy mrodyr annwyl, byddwch sicr, a diymod, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.

1 Corinthiaid 15