1 Corinthiaid 15:46-50 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

46. Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysbrydol.

47. Y dyn cyntaf o'r ddaear, yn daearol; yr ail dyn, yr Arglwydd o'r nef.

48. Fel y mae y daearol, felly y mae y rhai daearol hefyd; ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd.

49. Ac megis y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol.

50. Eithr hyn meddaf, O frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth.

1 Corinthiaid 15