1 Corinthiaid 15:17-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau.

18. Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yng Nghrist.

19. Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, truanaf o'r holl ddynion ydym ni.

20. Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant.

21. Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn, trwy ddyn hefyd y mae atgyfodiad y meirw.

1 Corinthiaid 15