7. Hefyd pethau dienaid wrth roddi sain, pa un bynnag ai pibell ai telyn, oni roddant wahaniaeth yn y sain, pa wedd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn?
8. Canys os yr utgorn a rydd sain anhynod, pwy a ymbaratoa i ryfel?
9. Felly chwithau, oni roddwch â'r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr.
10. Y mae cymaint, ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau yn y byd, ac nid oes un ohonynt yn aflafar.
11. Am hynny, oni wn i rym y llais, myfi a fyddaf farbariad i'r hwn sydd yn llefaru, a'r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn farbariad.
12. Felly chwithau, gan eich bod yn awyddus i ddoniau ysbrydol, ceisiwch ragori tuag at adeiladaeth yr eglwys.
13. Oherwydd paham, yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, gweddïed ar iddo allu cyfieithu.
14. Canys os gweddïaf â thafod dieithr, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth.
15. Beth gan hynny? Mi a weddïaf â'r ysbryd, ac a weddïaf â'r deall hefyd: canaf â'r ysbryd, a chanaf â'r deall hefyd.
16. Canys os bendithi â'r ysbryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle'r anghyfarwydd, Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd?