1 Corinthiaid 14:25-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg; ac felly gan syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddywedyd fod Duw yn wir ynoch.

26. Beth gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un ohonoch salm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo dafodiaith, y mae ganddo ddatguddiad, y mae ganddo gyfieithiad. Gwneler pob peth er adeiladaeth.

27. Os llefara neb รข thafod dieithr, gwneler bob yn ddau, neu o'r mwyaf bob yn dri, a hynny ar gylch; a chyfieithed un.

1 Corinthiaid 14