4. Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd.
5. Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd.
6. Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb:
7. Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob un er llesâd.
8. Canys i un, trwy'r Ysbryd, y rhoddir ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, trwy'r un Ysbryd;
9. Ac i arall ffydd, trwy'r un Ysbryd; ac i arall ddawn i iacháu, trwy'r un Ysbryd;
10. Ac i arall, wneuthur gwyrthiau; ac i arall, broffwydoliaeth; ac i arall, wahaniaeth ysbrydoedd; ac i arall, amryw dafodau; ac i arall, gyfieithiad tafodau.
11. A'r holl bethau hyn y mae'r un a'r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un o'r neilltu megis y mae yn ewyllysio.
12. Canys fel y mae'r corff yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau'r un corff, cyd byddont lawer, ydynt un corff; felly y mae Crist hefyd.
13. Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd.
14. Canys y corff nid yw un aelod, eithr llawer.
15. Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o'r corff; ai am hynny nid yw efe o'r corff?
16. Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o'r corff; ai am hynny nid yw hi o'r corff?
17. Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai'r clywed? pe'r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai'r arogliad?