11. A'r holl bethau hyn y mae'r un a'r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un o'r neilltu megis y mae yn ewyllysio.
12. Canys fel y mae'r corff yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau'r un corff, cyd byddont lawer, ydynt un corff; felly y mae Crist hefyd.
13. Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd.
14. Canys y corff nid yw un aelod, eithr llawer.
15. Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o'r corff; ai am hynny nid yw efe o'r corff?
16. Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o'r corff; ai am hynny nid yw hi o'r corff?
17. Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai'r clywed? pe'r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai'r arogliad?
18. Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe.
19. Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai'r corff?
20. Ond yr awron llawer yw'r aelodau, eithr un corff.
21. Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na'r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych.
22. Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf, ydynt angenrheidiol:
23. A'r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o'r corff, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch.