1 Corinthiaid 12:1-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Eithr am ysbrydol ddoniau, frodyr, ni fynnwn i chwi fod heb wybod.

2. Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddech, yn eich arwain ymaith at yr eilunod mudion, fel y'ch tywysid.

3. Am hynny yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Ysbryd Duw, yn galw yr Iesu yn ysgymunbeth: ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu, eithr trwy'r Ysbryd Glân.

4. Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd.

5. Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd.

6. Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb:

7. Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob un er llesâd.

8. Canys i un, trwy'r Ysbryd, y rhoddir ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, trwy'r un Ysbryd;

9. Ac i arall ffydd, trwy'r un Ysbryd; ac i arall ddawn i iacháu, trwy'r un Ysbryd;

10. Ac i arall, wneuthur gwyrthiau; ac i arall, broffwydoliaeth; ac i arall, wahaniaeth ysbrydoedd; ac i arall, amryw dafodau; ac i arall, gyfieithiad tafodau.

11. A'r holl bethau hyn y mae'r un a'r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un o'r neilltu megis y mae yn ewyllysio.

12. Canys fel y mae'r corff yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau'r un corff, cyd byddont lawer, ydynt un corff; felly y mae Crist hefyd.

13. Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd.

14. Canys y corff nid yw un aelod, eithr llawer.

15. Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o'r corff; ai am hynny nid yw efe o'r corff?

16. Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o'r corff; ai am hynny nid yw hi o'r corff?

17. Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai'r clywed? pe'r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai'r arogliad?

18. Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe.

19. Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai'r corff?

1 Corinthiaid 12