1 Corinthiaid 10:8-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai ohonynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain.

9. Ac na themtiwn Grist, megis ag y temtiodd rhai ohonynt hwy, ac a'u distrywiwyd gan seirff.

10. Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy, ac a'u distrywiwyd gan y dinistrydd.

11. A'r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd.

1 Corinthiaid 10