10. Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy, ac a'u distrywiwyd gan y dinistrydd.
11. A'r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd.
12. Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio.
13. Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â'r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.
14. Oherwydd paham, fy anwylyd, ffowch oddi wrth eilun‐addoliaeth.