46. Os pechant i'th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a digio ohonot wrthynt, a'u rhoddi hwynt o flaen eu gelynion, fel y caethgludont hwynt yn gaethion i wlad y gelyn, ymhell neu yn agos;
47. Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac erfyn arnat yng ngwlad y rhai a'u caethgludasant, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol;
48. A dychwelyd atat ti â'u holl galon, ac â'u holl enaid, yng ngwlad eu gelynion a'u caethgludasant hwynt, a gweddïo arnat ti tua'u gwlad a roddaist i'w tadau, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a adeiledais i'th enw di:
49. Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt, a'u deisyfiad, a gwna farn iddynt,
50. A maddau i'th bobl a bechasant i'th erbyn, a'u holl gamweddau yn y rhai y troseddasant i'th erbyn, a phâr iddynt gael trugaredd gerbron y rhai a'u caethgludasant, fel y trugarhaont wrthynt hwy:
51. Canys dy bobl di a'th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist ti allan o'r Aifft, o ganol y ffwrn haearn:
52. Fel y byddo dy lygaid yn agored i ddeisyfiad dy was, a deisyfiad dy bobl Israel, i wrando arnynt hwy pa bryd bynnag y galwont arnat ti.
53. Canys ti a'u neilltuaist hwynt yn etifeddiaeth i ti o holl bobl y ddaear, fel y lleferaist trwy law Moses dy was, pan ddygaist ein tadau ni allan o'r Aifft, O Arglwydd Dduw.
54. Ac wedi gorffen o Solomon weddïo ar yr Arglwydd yr holl weddi a'r deisyfiad yma, efe a gyfododd oddi gerbron allor yr Arglwydd, o ostwng ar ei liniau, ac o estyn ei ddwylo tua'r nefoedd.
55. Ac efe a safodd, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel â llef uchel, gan ddywedyd,