1 Brenhinoedd 8:35-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

35. Pan gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i'th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech di hwynt:

36. Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy weision, a'th bobl Israel, fel y dysgych iddynt y ffordd orau y rhodiant ynddi, a dyro law ar dy dir a roddaist i'th bobl yn etifeddiaeth.

37. Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, llosgfa, malltod, locustiaid, os bydd y lindys; pan warchaeo ei elyn arno ef yng ngwlad ei ddinasoedd; pa bla bynnag, pa glefyd bynnag, a fyddo;

38. Pob gweddi, pob deisyfiad, a fyddo gan un dyn, neu gan dy holl bobl Israel, y rhai a wyddant bawb bla ei galon ei hun, ac a estynnant eu dwylo tua'r tŷ hwn:

39. Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a maddau; gwna hefyd, a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn yr adwaenost ei galon; (canys ti yn unig a adwaenost galonnau holl feibion dynion;)

40. Fel y'th ofnont di yr holl ddyddiau y byddont byw ar wyneb y tir a roddaist i'n tadau ni.

41. Ac am y dieithrddyn hefyd ni byddo o'th bobl Israel, ond dyfod o wlad bell er mwyn dy enw;

42. (Canys clywant am dy enw mawr di, a'th law gref, a'th fraich estynedig;) pan ddêl a gweddïo tua'r tŷ hwn:

1 Brenhinoedd 8