28. Eto edrych ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiad ef, O Arglwydd fy Nuw, i wrando ar y llef a'r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron di:
29. Fel y byddo dy lygaid yn agored tua'r tŷ yma nos a dydd, tua'r lle y dywedaist amdano, Fy enw a fydd yno: i wrando ar y weddi a weddïo dy was yn y lle hwn.
30. Gwrando gan hynny ddeisyfiad dy was, a'th bobl Israel, pan weddïant yn y lle hwn: clyw hefyd o le dy breswylfa, sef o'r nefoedd; a phan glywych, maddau.
31. Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn:
32. Yna clyw di yn y nefoedd, gwna hefyd, a barna dy weision, gan ddamnio'r drygionus i ddwyn ei ffordd ef ar ei ben; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo ef yn ôl ei gyfiawnder.
33. Pan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn di, os dychwelant atat ti, a chyfaddef dy enw, a gweddïo, ac ymbil â thi yn y tŷ hwn:
34. Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i'r tir a roddaist i'w tadau hwynt.
35. Pan gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i'th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech di hwynt: