1 Brenhinoedd 8:20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
A'r Arglwydd a gywirodd ei air a lefarodd efe; a mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar deyrngadair Israel, megis y llefarodd yr Arglwydd, ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.