1 Brenhinoedd 7:5-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A'r holl ddrysau a'r gorsingau oedd ysgwâr, felly yr oedd y ffenestri; a golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.

6. Hefyd efe a wnaeth borth o golofnau, yn ddeg cufydd a deugain ei hyd, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei led: a'r porth oedd o'u blaen hwynt; a'r colofnau eraill a'r swmerau oedd o'u blaen hwythau.

7. Porth yr orseddfa hefyd, yr hwn y barnai efe ynddo, a wnaeth efe yn borth barn: ac efe a wisgwyd â chedrwydd o'r naill gwr i'r llawr hyd y llall.

8. Ac i'w dŷ ei hun, yr hwn y trigai efe ynddo, yr oedd cyntedd arall o fewn y porth o'r un fath waith. Gwnaeth hefyd dŷ i ferch Pharo, yr hon a briodasai Solomon, fel y porth hwn.

9. Hyn oll oedd o feini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a'u lladd â llif, oddi fewn ac oddi allan, a hynny o'r sylfaen hyd y llogail; ac felly o'r tu allan hyd y cyntedd mawr.

10. Ac efe a sylfaenesid â meini costus, â meini mawr, â meini o ddeg cufydd, ac â meini o wyth gufydd.

11. Ac oddi arnodd yr oedd meini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a chedrwydd.

1 Brenhinoedd 7