26. Ei dewder hefyd oedd ddyrnfedd, a'i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, a blodau lili: dwy fil o bathau a annai ynddo.
27. Hefyd efe a wnaeth ddeg o ystolion pres; pedwar cufydd oedd hyd pob ystôl, a phedwar cufydd ei lled, a thri chufydd ei huchder.
28. A dyma waith yr ystolion: ystlysau oedd iddynt, a'r ystlysau oedd rhwng y delltennau:
29. Ac ar yr ystlysau oedd rhwng y delltennau, yr oedd llewod, ychen, a cheriwbiaid; ac ar y dellt yr oedd ystôl oddi arnodd; ac oddi tan y llewod a'r ychen yr oedd cysylltiadau o waith tenau.
30. A phedair olwyn bres oedd i bob ystôl, a phlanciau pres; ac yn eu pedair congl yr oedd ysgwyddau iddynt: dan y noe yr oedd ysgwyddau, wedi eu toddi ar gyfer pob cysylltiad.
31. A'i genau oddi fewn y cwmpas, ac oddi arnodd, oedd gufydd; a'i genau hi oedd grwn, ar waith yr ystôl, yn gufydd a hanner; ac ar ei hymyl hi yr oedd cerfiadau, a'i hystlysau yn bedwar ochrog, nid yn grynion.
32. A'r pedair olwyn oedd dan yr ystlysau, ac echelau yr olwynion yn yr ystôl; ac uchder pob olwyn yn gufydd a hanner cufydd.
33. Gwaith yr olwynion hefyd oedd fel gwaith olwynion men; eu hechelau, a'u bothau, a'u camegau, a'u hadenydd, oedd oll yn doddedig.
34. Ac yr oedd pedair ysgwydd wrth bedair congl pob ystôl: o'r ystôl yr oedd ei hysgwyddau hi.
35. Ac ar ben yr ystôl yr oedd cwmpas o amgylch, o hanner cufydd o uchder; ar ben yr ystôl hefyd yr oedd ei hymylau a'i thaleithiau o'r un.
36. Ac efe a gerfiodd ar ystyllod ei hymylau hi, ac ar ei thaleithiau hi, geriwbiaid, llewod, a phalmwydd, wrth noethder pob un, a chysylltiadau oddi amgylch.
37. Fel hyn y gwnaeth efe y deg ystôl: un toddiad, un mesur, ac un agwedd, oedd iddynt hwy oll.
38. Gwnaeth hefyd ddeng noe bres: deugain bath a ddaliai pob noe; yn bedwar cufydd bob noe; ac un noe ar bob un o'r deg ystôl.