1 Brenhinoedd 7:14-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Mab gwraig weddw oedd hwn o lwyth Nafftali, a'i dad yn ŵr o Tyrus: gof pres ydoedd efe; a llawn ydoedd o ddoethineb, a deall, a gwybodaeth, i weithio pob gwaith o bres. Ac efe a ddaeth at y brenin Solomon, ac a weithiodd ei holl waith ef.

15. Ac efe a fwriodd ddwy golofn o bres; deunaw cufydd oedd uchder pob colofn; a llinyn o ddeuddeg cufydd a amgylchai bob un o'r ddwy.

16. Ac efe a wnaeth ddau gnap o bres tawdd, i'w rhoddi ar bennau y colofnau; pum cufydd oedd uchder y naill gnap, a phum cufydd uchder y cnap arall.

17. Efe a wnaeth rwydwaith, a phlethiadau o gadwynwaith, i'r cnapiau oedd ar ben y colofnau; saith i'r naill gnap, a saith i'r cnap arall.

18. Ac efe a wnaeth y colofnau, a dwy res o bomgranadau o amgylch ar y naill rwydwaith, i guddio'r cnapiau oedd uwchben; ac felly y gwnaeth efe i'r cnap arall.

19. A'r cnapiau y rhai oedd ar y colofnau oedd o waith lili, yn y porth, yn bedwar cufydd.

20. Ac i'r cnapiau ar y ddwy golofn oddi arnodd, ar gyfer y canol, yr oedd pomgranadau, y rhai oedd wrth y rhwydwaith; a'r pomgranadau oedd ddau cant, yn rhesau o amgylch, ar y cnap arall.

1 Brenhinoedd 7