1. Eithr ei dŷ ei hun a adeiladodd Solomon mewn tair blynedd ar ddeg, ac a orffennodd ei holl dŷ.
2. Efe a adeiladodd dŷ coedwig Libanus, yn gan cufydd ei hyd, ac yn ddeg cufydd a deugain ei led, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder, ar bedair rhes o golofnau cedrwydd, a thrawstiau cedrwydd ar y colofnau.
3. Ac efe a dowyd â chedrwydd oddi arnodd ar y trawstiau oedd ar y pum colofn a deugain, pymtheg yn y rhes.
4. Ac yr oedd tair rhes o ffenestri, golau ar gyfer golau, yn dair rhenc.