4. Ac efe a wnaeth i'r tŷ ffenestri, yn llydain oddi fewn, ac yn gyfyng oddi allan.
5. Ac efe a adeiladodd wrth fur y tŷ ystafelloedd oddi amgylch mur y tŷ, ynghylch y deml, a'r gafell; ac a wnaeth gelloedd o amgylch.
6. Yr ystafell isaf oedd bum cufydd ei lled, a'r ganol chwe chufydd ei lled, a'r drydedd yn saith gufydd ei lled: canys efe a roddasai ategion o'r tu allan i'r tŷ oddi amgylch, fel na rwymid y trawstiau ym mur y tŷ.
7. A'r tŷ, pan adeiladwyd ef, a adeiladwyd o gerrig wedi eu cwbl naddu cyn eu dwyn yno; fel na chlybuwyd na morthwylion, na bwyeill, nac un offeryn haearn yn y tŷ, wrth ei adeiladu.
8. Drws y gell ganol oedd ar ystlys ddeau y tŷ; ac ar hyd grisiau troëdig y dringid i'r ganol, ac o'r ganol i'r drydedd.
9. Felly yr adeiladodd efe y tŷ, ac a'i gorffennodd; ac a fyrddiodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd.
10. Ac efe a adeiladodd ystafelloedd wrth yr holl dŷ, yn bum cufydd eu huchder: ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ.
11. A daeth gair yr Arglwydd at Solomon, gan ddywedyd,