1 Brenhinoedd 6:34-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. Ac yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynidwydd: dwy ddalen blygedig oedd i'r naill ddôr, a dwy ddalen blygedig i'r ddôr arall.

35. Ac efe a gerfiodd geriwbiaid, a phalmwydd, a blodau agored, arnynt; ac a'u gwisgodd ag aur, yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad.

36. Ac efe a adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn â thair rhes o gerrig nadd, ac â rhes o drawstiau cedrwydd.

37. Yn y bedwaredd flwyddyn y sylfaenwyd tŷ yr Arglwydd, ym mis Sif:

38. Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ym mis Bul, (dyna yr wythfed mis,) y gorffennwyd y tŷ, a'i holl rannau, a'i holl berthynasau. Felly mewn saith mlynedd yr adeiladodd efe ef.

1 Brenhinoedd 6