1. Ac yn y bedwar ugeinfed a phedwar cant o flynyddoedd wedi dyfod meibion Israel allan o'r Aifft, yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Solomon ar Israel, yn y mis Sif, hwnnw yw yr ail fis, y dechreuodd efe adeiladu tŷ yr Arglwydd.
2. A'r tŷ a adeiladodd y brenin Solomon i'r Arglwydd oedd drigain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei led, a deg cufydd ar hugain ei uchder.
3. A'r porth o flaen teml y tŷ oedd ugain cufydd ei hyd, yn un hyd â lled y tŷ; ac yn ddeg cufydd ei led, o flaen y tŷ.
4. Ac efe a wnaeth i'r tŷ ffenestri, yn llydain oddi fewn, ac yn gyfyng oddi allan.
5. Ac efe a adeiladodd wrth fur y tŷ ystafelloedd oddi amgylch mur y tŷ, ynghylch y deml, a'r gafell; ac a wnaeth gelloedd o amgylch.
6. Yr ystafell isaf oedd bum cufydd ei lled, a'r ganol chwe chufydd ei lled, a'r drydedd yn saith gufydd ei lled: canys efe a roddasai ategion o'r tu allan i'r tŷ oddi amgylch, fel na rwymid y trawstiau ym mur y tŷ.