1 Brenhinoedd 4:11-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef.

12. Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel‐mehola, hyd y tu hwnt i Jocneam.

13. Mab Geber oedd yn Ramoth‐Gilead: iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse, y rhai sydd yn Gilead: eiddo ef oedd ardal Argob, yr hon sydd yn Basan; sef trigain o ddinasoedd mawrion, â chaerau a barrau pres.

14. Ahinadab mab Ido oedd ym Mahanaim.

15. Ahimaas oedd yn Nafftali: yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig.

16. Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth.

17. Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar.

18. Simei mab Ela oedd o fewn Benjamin.

19. Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead, gwlad Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan; a'r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe.

20. Jwda ac Israel oedd aml, fel y tywod sydd gerllaw y môr o amldra, yn bwyta ac yn yfed, ac yn gwneuthur yn llawen.

21. A Solomon oedd yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd, o'r afon hyd wlad y Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef.

22. A bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid, a thrigain corus o flawd;

23. Deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen porfadwy, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision.

1 Brenhinoedd 4