1 Brenhinoedd 22:6-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn Ramoth‐Gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, Dos i fyny; canys yr Arglwydd a'i dyry hi yn llaw y brenin.

7. A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i'r Arglwydd mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef?

8. A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â'r Arglwydd: eithr cas yw gennyf fi ef; canys ni phroffwyda efe i mi ddaioni, namyn drygioni; Michea mab Jimla yw efe. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly.

9. Yna brenin Israel a alwodd ar un o'i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura yma Michea mab Jimla.

10. A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi gwisgo eu brenhinol wisgoedd, mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria; a'r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt.

11. A Sedeceia mab Cenaana a wnaeth iddo gyrn heyrn; ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, A'r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt.

12. A'r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth‐Gilead, a llwydda; canys yr Arglwydd a'i dyry hi yn llaw y brenin.

13. A'r gennad a aethai i alw Michea a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele yn awr eiriau y proffwydi yn unair yn dda i'r brenin: bydded, atolwg, dy air dithau fel gair un ohonynt, a dywed y gorau.

14. A dywedodd Michea, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hyn a ddywedo yr Arglwydd wrthyf, hynny a lefaraf fi.

15. Felly efe a ddaeth at y brenin. A'r brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth‐Gilead, ai peidio? Dywedodd yntau wrtho, Dos i fyny, a llwydda; canys yr Arglwydd a'i dyry hi yn llaw y brenin.

16. A'r brenin a ddywedodd wrtho, Pa sawl gwaith y'th dynghedaf di, na ddywedych wrthyf ond gwirionedd yn enw yr Arglwydd?

17. Ac efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel ar wasgar ar hyd y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr Arglwydd, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i'w dŷ ei hun mewn heddwch.

18. A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt ti, na phroffwydai efe ddaioni i mi, eithr drygioni?

19. Ac efe a ddywedodd, Clyw gan hynny air yr Arglwydd: Gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu'r nefoedd yn sefyll yn ei ymyl, ar ei law ddeau ac ar ei law aswy.

20. A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy a dwylla Ahab, fel yr elo efe i fyny ac y syrthio yn Ramoth‐Gilead? Ac un a ddywedodd fel hyn, ac arall oedd yn dywedyd fel hyn.

21. Ac ysbryd a ddaeth allan, ac a safodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Myfi a'i twyllaf ef. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pa fodd?

22. Dywedodd yntau, Mi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. Ac efe a ddywedodd, Twylli a gorchfygi ef: dos ymaith, a gwna felly.

23. Ac yn awr wele, yr Arglwydd a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn; a'r Arglwydd a lefarodd ddrwg amdanat ti.

24. Ond Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd, Pa ffordd yr aeth ysbryd yr Arglwydd oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi?

25. A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio.

1 Brenhinoedd 22