1 Brenhinoedd 21:17-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A gair yr Arglwydd a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd,

18. Cyfod, dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn sydd yn Samaria: wele efe yng ngwinllan Naboth, yr hon yr aeth efe i waered iddi i'w meddiannu.

19. A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, A leddaist ti, ac a feddiennaist hefyd? Llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Yn y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, y llyf cŵn dy waed dithau hefyd.

20. A dywedodd Ahab wrth Eleias, A gefaist ti fi, O fy ngelyn? Dywedodd yntau, Cefais: oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.

21. Wele fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di, ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a'r gweddilledig yn Israel:

22. A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahïa, oherwydd y dicter trwy yr hwn y'm digiaist, ac y gwnaethost i Israel bechu.

23. Am Jesebel hefyd y llefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Y cŵn a fwyty Jesebel wrth fur Jesreel.

1 Brenhinoedd 21