9. Am hynny y dywedodd efe wrth genhadau Benhadad, Dywedwch i'm harglwydd y brenin, Am yr hyn oll yr anfonaist ti at dy was ar y cyntaf, mi a'i gwnaf: ond ni allaf wneuthur y peth hyn. A'r cenhadau a aethant, ac a ddygasant air iddo drachefn.
10. A Benhadad a anfonodd ato ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo y duwiau i mi, ac fel hyn y chwanegont, os bydd pridd Samaria ddigon o ddyrneidiau i'r holl bobl sydd i'm canlyn i.
11. A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Dywedwch wrtho, Nac ymffrostied yr hwn a wregyso ei arfau, fel yr hwn sydd yn eu diosg.
12. A phan glywodd efe y peth hyn, (ac efe yn yfed, efe a'r brenhinoedd, yn y pebyll,) efe a ddywedodd wrth ei weision, Ymosodwch. A hwy a ymosodasant yn erbyn y ddinas.
13. Ac wele, rhyw broffwyd a nesaodd at Ahab brenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oni welaist ti yr holl dyrfa fawr hon? wele, mi a'i rhoddaf yn dy law di heddiw, fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd.
14. Ac Ahab a ddywedodd, Trwy bwy? Dywedodd yntau, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Trwy wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau. Ac efe a ddywedodd, Pwy a drefna y fyddin? Dywedodd yntau, Tydi.
15. Yna efe a gyfrifodd wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau, ac yr oeddynt yn ddau cant a deuddeg ar hugain: ac ar eu hôl hwynt efe a gyfrifodd yr holl bobl, cwbl o feibion Israel, yn saith mil.
16. A hwy a aethant allan ganol dydd. A Benhadad oedd yn yfed yn feddw yn y pebyll, efe a'r brenhinoedd, y deuddeg brenin ar hugain oedd yn ei gynorthwyo ef.
17. A gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau a aethant allan yn gyntaf: a Benhadad a anfonodd allan, a hwy a fynegasant iddo gan ddywedyd, Daeth gwŷr allan o Samaria.
18. Ac efe a ddywedodd, Os am heddwch y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw; ac os i ryfel y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw.
19. Felly yr aethant hwy allan o'r ddinas, sef gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau, a'r llu yr hwn oedd ar eu hôl hwynt.
20. A hwy a laddasant bawb ei ŵr: a'r Syriaid a ffoesant, ac Israel a'u herlidiodd hwynt: a Benhadad brenin Syria a ddihangodd ar farch, gyda'r gwŷr meirch.
21. A brenin Israel a aeth allan, ac a drawodd y meirch a'r cerbydau, ac a laddodd y Syriaid â lladdfa fawr.