7. Yna brenin Israel a alwodd holl henuriaid y wlad, ac a ddywedodd, Gwybyddwch, atolwg, a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn: canys efe a anfonodd ataf fi am fy ngwragedd, ac am fy meibion, ac am fy arian, ac am fy aur; ac nis gomeddais ef.
8. Yr holl henuriaid hefyd, a'r holl bobl, a ddywedasant wrtho ef, Na wrando, ac na chytuna ag ef.
9. Am hynny y dywedodd efe wrth genhadau Benhadad, Dywedwch i'm harglwydd y brenin, Am yr hyn oll yr anfonaist ti at dy was ar y cyntaf, mi a'i gwnaf: ond ni allaf wneuthur y peth hyn. A'r cenhadau a aethant, ac a ddygasant air iddo drachefn.
10. A Benhadad a anfonodd ato ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo y duwiau i mi, ac fel hyn y chwanegont, os bydd pridd Samaria ddigon o ddyrneidiau i'r holl bobl sydd i'm canlyn i.