1 Brenhinoedd 20:32-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Yna y gwregysasant sachliain am eu llwynau, a rhaffau am eu pennau, ac a ddaethant at frenin Israel, ac a ddywedasant, Benhadad dy was a ddywed, Atolwg, gad i mi fyw. Dywedodd yntau, A ydyw efe eto yn fyw? fy mrawd yw efe.

33. A'r gwŷr oedd yn disgwyl yn ddyfal a ddeuai dim oddi wrtho ef, ac a'i cipiasant ar frys: ac a ddywedasant, Dy frawd Benhadad. Dywedodd yntau, Ewch, dygwch ef. Yna Benhadad a ddaeth allan ato ef; ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny i'r cerbyd.

34. A Benhadad a ddywedodd wrtho, Y dinasoedd a ddug fy nhad i oddi ar dy dad di, a roddaf drachefn; a chei wneuthur heolydd i ti yn Damascus, fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria. A dywedodd Ahab, Mi a'th ollyngaf dan yr amod hwn. Felly efe a wnaeth gyfamod ag ef, ac a'i gollyngodd ef ymaith.

35. A rhyw ŵr o feibion y proffwydi a ddywedodd wrth ei gymydog trwy air yr Arglwydd, Taro fi, atolwg. A'r gŵr a wrthododd ei daro ef.

36. Dywedodd yntau wrtho, Oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd, wele, pan elych oddi wrthyf, llew a'th ladd di. Ac efe a aeth oddi wrtho ef, a llew a'i cyfarfu ef, ac a'i lladdodd.

37. Yna efe a gafodd ŵr arall, ac a ddywedodd, Taro fi, atolwg. A'r gŵr a'i trawodd ef, gan ei daro a'i archolli.

38. Felly y proffwyd a aeth ymaith, ac a safodd o flaen y brenin ar y ffordd, ac a ymddieithrodd â lludw ar ei wyneb.

39. A phan ddaeth y brenin heibio, efe a lefodd ar y brenin, ac a ddywedodd, Dy was a aeth i ganol y rhyfel, ac wele, gŵr a drodd heibio, ac a ddug ŵr ataf fi, ac a ddywedodd, Cadw y gŵr hwn: os gan golli y cyll efe, yna y bydd dy einioes di yn lle ei einioes ef, neu ti a deli dalent o arian.

40. A thra yr oedd dy was yn ymdroi yma ac acw, efe a ddihangodd. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Felly y bydd dy farn di; ti a'i rhoddaist ar lawr.

41. Ac efe a frysiodd, ac a dynnodd ymaith y lludw oddi ar ei wyneb: a brenin Israel a'i hadnabu ef, mai o'r proffwydi yr oedd efe.

42. Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd i ti ollwng ymaith o'th law y gŵr a nodais i'w ddifetha, dy einioes di fydd yn lle ei einioes ef, a'th bobl di yn lle ei bobl ef.

1 Brenhinoedd 20