31. A'i weision a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, clywsom am frenhinoedd tŷ Israel, mai brenhinoedd trugarog ydynt hwy: gosodwn, atolwg, sachliain am ein llwynau, a rhaffau am ein pennau, ac awn at frenin Israel; ond odid efe a geidw dy einioes di.
32. Yna y gwregysasant sachliain am eu llwynau, a rhaffau am eu pennau, ac a ddaethant at frenin Israel, ac a ddywedasant, Benhadad dy was a ddywed, Atolwg, gad i mi fyw. Dywedodd yntau, A ydyw efe eto yn fyw? fy mrawd yw efe.
33. A'r gwŷr oedd yn disgwyl yn ddyfal a ddeuai dim oddi wrtho ef, ac a'i cipiasant ar frys: ac a ddywedasant, Dy frawd Benhadad. Dywedodd yntau, Ewch, dygwch ef. Yna Benhadad a ddaeth allan ato ef; ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny i'r cerbyd.
34. A Benhadad a ddywedodd wrtho, Y dinasoedd a ddug fy nhad i oddi ar dy dad di, a roddaf drachefn; a chei wneuthur heolydd i ti yn Damascus, fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria. A dywedodd Ahab, Mi a'th ollyngaf dan yr amod hwn. Felly efe a wnaeth gyfamod ag ef, ac a'i gollyngodd ef ymaith.
35. A rhyw ŵr o feibion y proffwydi a ddywedodd wrth ei gymydog trwy air yr Arglwydd, Taro fi, atolwg. A'r gŵr a wrthododd ei daro ef.
36. Dywedodd yntau wrtho, Oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd, wele, pan elych oddi wrthyf, llew a'th ladd di. Ac efe a aeth oddi wrtho ef, a llew a'i cyfarfu ef, ac a'i lladdodd.
37. Yna efe a gafodd ŵr arall, ac a ddywedodd, Taro fi, atolwg. A'r gŵr a'i trawodd ef, gan ei daro a'i archolli.