26. Ac ymhen y flwyddyn Benhadad a gyfrifodd y Syriaid, ac a aeth i fyny i Affec, i ryfela yn erbyn Israel.
27. A meibion Israel a gyfrifwyd, ac oeddynt oll yn bresennol, ac a aethant i'w cyfarfod hwynt: a meibion Israel a wersyllasant ar eu cyfer hwynt, fel dwy ddiadell fechan o eifr; a'r Syriaid oedd yn llenwi'r wlad.
28. A gŵr i Dduw a nesaodd, ac a lefarodd wrth frenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd dywedyd o'r Syriaid, Duw y mynyddoedd yw yr Arglwydd, ac nid Duw y dyffrynnoedd yw efe; am hynny y rhoddaf yr holl dyrfa fawr hon i'th law di, a chwi a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
29. A hwy a wersyllasant y naill ar gyfer y llall saith niwrnod. Ac ar y seithfed dydd y rhyfel a aeth ynghyd: a meibion Israel a laddasant o'r Syriaid gan mil o wŷr traed mewn un diwrnod.
30. A'r lleill a ffoesant i Affec, i'r ddinas; a'r mur a syrthiodd ar saith mil ar hugain o'r gwŷr a adawsid: a Benhadad a ffodd, ac a ddaeth i'r ddinas o ystafell i ystafell.
31. A'i weision a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, clywsom am frenhinoedd tŷ Israel, mai brenhinoedd trugarog ydynt hwy: gosodwn, atolwg, sachliain am ein llwynau, a rhaffau am ein pennau, ac awn at frenin Israel; ond odid efe a geidw dy einioes di.