17. A gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau a aethant allan yn gyntaf: a Benhadad a anfonodd allan, a hwy a fynegasant iddo gan ddywedyd, Daeth gwŷr allan o Samaria.
18. Ac efe a ddywedodd, Os am heddwch y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw; ac os i ryfel y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw.
19. Felly yr aethant hwy allan o'r ddinas, sef gwŷr ieuainc tywysogion y taleithiau, a'r llu yr hwn oedd ar eu hôl hwynt.
20. A hwy a laddasant bawb ei ŵr: a'r Syriaid a ffoesant, ac Israel a'u herlidiodd hwynt: a Benhadad brenin Syria a ddihangodd ar farch, gyda'r gwŷr meirch.
21. A brenin Israel a aeth allan, ac a drawodd y meirch a'r cerbydau, ac a laddodd y Syriaid â lladdfa fawr.
22. A'r proffwyd a nesaodd at frenin Israel, ac a ddywedodd wrtho, Dos, ymgryfha, gwybydd hefyd, ac edrych beth a wnelych; canys ymhen y flwyddyn brenin Syria a ddaw i fyny i'th erbyn di.
23. A gweision brenin Syria a ddywedasant wrtho ef, Duwiau y mynyddoedd yw eu duwiau hwynt, am hynny trech fuant na ni: ond ymladdwn â hwynt yn y gwastadedd, a ni a'u gorthrechwn hwynt.
24. A gwna hyn; Tyn ymaith y brenhinoedd bob un o'i le, a gosod gapteiniaid yn eu lle hwynt.
25. Rhifa hefyd i ti lu, fel y llu a gollaist, meirch am feirch, a cherbyd am gerbyd: a ni a ymladdwn â hwynt yn y gwastatir, ac a'u gorthrechwn hwynt. Ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt, ac a wnaeth felly.
26. Ac ymhen y flwyddyn Benhadad a gyfrifodd y Syriaid, ac a aeth i fyny i Affec, i ryfela yn erbyn Israel.
27. A meibion Israel a gyfrifwyd, ac oeddynt oll yn bresennol, ac a aethant i'w cyfarfod hwynt: a meibion Israel a wersyllasant ar eu cyfer hwynt, fel dwy ddiadell fechan o eifr; a'r Syriaid oedd yn llenwi'r wlad.
28. A gŵr i Dduw a nesaodd, ac a lefarodd wrth frenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd dywedyd o'r Syriaid, Duw y mynyddoedd yw yr Arglwydd, ac nid Duw y dyffrynnoedd yw efe; am hynny y rhoddaf yr holl dyrfa fawr hon i'th law di, a chwi a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
29. A hwy a wersyllasant y naill ar gyfer y llall saith niwrnod. Ac ar y seithfed dydd y rhyfel a aeth ynghyd: a meibion Israel a laddasant o'r Syriaid gan mil o wŷr traed mewn un diwrnod.
30. A'r lleill a ffoesant i Affec, i'r ddinas; a'r mur a syrthiodd ar saith mil ar hugain o'r gwŷr a adawsid: a Benhadad a ffodd, ac a ddaeth i'r ddinas o ystafell i ystafell.
31. A'i weision a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, clywsom am frenhinoedd tŷ Israel, mai brenhinoedd trugarog ydynt hwy: gosodwn, atolwg, sachliain am ein llwynau, a rhaffau am ein pennau, ac awn at frenin Israel; ond odid efe a geidw dy einioes di.