1. A Benhadad brenin Syria a gasglodd ei holl lu, a deuddeg brenin ar hugain gydag ef, a meirch, a cherbydau: ac efe a aeth i fyny, ac a warchaeodd ar Samaria, ac a ryfelodd i'w herbyn hi.
2. Ac efe a anfonodd genhadau at Ahab brenin Israel, i'r ddinas,
3. Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Benhadad, Dy arian a'th aur sydd eiddof fi; dy wragedd hefyd, a'th feibion glanaf, ydynt eiddof fi.
4. A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Yn ôl dy air di, fy arglwydd frenin, myfi a'r hyn oll sydd gennyf ydym eiddot ti.
5. A'r cenhadau a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Fel hyn yr ymadroddodd Benhadad, gan ddywedyd, Er i mi anfon atat ti, gan ddywedyd, Dy arian a'th aur, a'th wragedd, a'th feibion, a roddi di i mi:
6. Eto ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf fy ngweision atat ti, a hwy a chwiliant dy dŷ di, a thai dy weision: a phob peth dymunol yn dy olwg a gymerant hwy yn eu dwylo, ac a'i dygant ymaith.
7. Yna brenin Israel a alwodd holl henuriaid y wlad, ac a ddywedodd, Gwybyddwch, atolwg, a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn: canys efe a anfonodd ataf fi am fy ngwragedd, ac am fy meibion, ac am fy arian, ac am fy aur; ac nis gomeddais ef.