1 Brenhinoedd 2:8-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Wele hefyd Simei mab Gera, mab Jemini, o Bahurim, gyda thi, yr hwn a'm melltithiodd i â melltith dost, y dydd yr euthum i Mahanaim: ond efe a ddaeth i waered i'r Iorddonen i gyfarfod â mi; a mi a dyngais i'r Arglwydd wrtho ef, gan ddywedyd, Ni'th laddaf â'r cleddyf.

9. Ond yn awr na ad di ef heb gosbedigaeth: canys gŵr doeth ydwyt ti, a gwyddost beth a wnei iddo: dwg dithau ei benwynni ef i waered i'r bedd mewn gwaed.

10. Felly Dafydd a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd.

11. A'r dyddiau y teyrnasodd Dafydd ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

12. A Solomon a eisteddodd ar orseddfainc Dafydd ei dad; a'i frenhiniaeth ef a sicrhawyd yn ddirfawr.

13. Ac Adoneia mab Haggith a ddaeth at Bathseba mam Solomon. A hi a ddywedodd, Ai heddychlon dy ddyfodiad? Yntau a ddywedodd, Heddychlon.

14. Ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air â thi. Hithau a ddywedodd, Dywed.

15. Yntau a ddywedodd, Ti a wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i holl Israel osod eu hwynebau ar fy ngwneuthur i yn frenin: eithr trodd y frenhiniaeth, ac a aeth i'm brawd: canys trwy yr Arglwydd yr aeth hi yn eiddo ef.

16. Ond yn awr dymunaf gennyt un dymuniad; na omedd fi. Hithau a ddywedodd wrtho, Dywed.

17. Yntau a ddywedodd, Dywed, atolwg, wrth y brenin Solomon, (canys ni omedd efe dydi,) am roddi ohono ef Abisag y Sunamees yn wraig i mi.

18. A dywedodd Bathseba, Da; mi a ddywedaf drosot ti wrth y brenin.

1 Brenhinoedd 2