36. A'r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho, Adeilada i ti dŷ yn Jerwsalem, ac aros yno, ac na ddos allan oddi yno nac yma na thraw.
37. Canys bydd, y dydd yr elych allan, ac yr elych dros afon Cidron, gan wybod y cei di wybod y lleddir di yn farw: dy waed fydd ar dy ben dy hun.
38. A dywedodd Simei wrth y brenin, Da yw y gair: fel y dywedodd fy arglwydd frenin, felly y gwna dy was. A Simei a drigodd yn Jerwsalem ddyddiau lawer.
39. Eithr ymhen tair blynedd y ffodd dau was i Simei at Achis, mab Maacha, brenin Gath. A mynegwyd i Simei, gan ddywedyd, Wele dy weision di yn Gath.
40. A Simei a gyfododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a aeth i Gath at Achis, i geisio ei weision: ie, Simei a aeth, ac a gyrchodd ei weision o Gath.